Cyfrifiad y Gweithlu yn dangos prinder difrifol o feddygon llygad

Posted: Friday 31 March 2023
General Eye Scan Ophthalmologist Picture

Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg.

Mae'r Gymdeithas Facwlaidd wedi ymateb gyda phryder i Gyfrifiad y Gweithlu 2022 gan Goleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr, sy'n datgelu prinder o feddygon llygad yn y DU a maint y pwysau sydd ar wasanaethau offthalmoleg y GIG.

Mae'r adroddiad yn amlygu'r prinder staff llethol sy'n cael ei wynebu gan wasanaethau offthalmoleg y GIG, gan ddangos nad oes gan dros dri chwarter (76%) y clinigau llygad ddigon o feddygon ymgynghorol i gwrdd â'r galw cyfredol gan gleifion, a bod dros hanner (52%) wedi ei chael hi'n fwy anodd i recriwtio meddygon ymgynghorol dros y 12 mis diwethaf.

Mae prinder staff offthalmoleg yn effeithio ar gleifion ar draws y DU, gyda dros 632,000 o bobl gyda gwahanol gyflyrau llygaid ar y rhestrau aros yn Lloegr yn unig, 24,000 ohonyn nhw yn aros am dros flwyddyn. Mae'r effaith ar ofal cleifion yn bryder cynyddol ac mae dros hanner y clinigau llygad yn Lloegr yn amcangyfrif y bydd hi'n cymryd o leiaf blwyddyn arall i glirio'r rhestrau aros i gleifion allanol.

Er mwyn ymdopi gyda'r cynnydd mewn galw gan gleifion mae'r clinigau hyn yn dibynnu'n fwy ar feddygon locwm, gyda 65% bellach yn eu defnyddio i lenwi swyddi gwag meddygon ymgynghorol a 57% ohonynt yn defnyddio meddygon locwm i lenwi swyddi am gyfnod hwy na 12 mis.

Meddai Cathy Yelf, prif weithredwr y Gymdeithas Facwlaidd: "Mae canlyniadau Cyfrifiad y Gweithlu 2022 yn bryderus iawn i gleifion ac i staff, ond dydyn nhw ddim yn peri syndod. Mae'n amlwg nad yw'r system yn gweithio bellach ac mae golwg cleifion yn cael ei roi mewn perygl. Mae angen gweithredu ar fyrder. Mae'r Gymdeithas Facwlaidd, ynghyd ag aelodau eraill y bartneriaeth The Eyes Have It, wedi bod yn galw am strategaeth genedlaethol ar gyfer gofal llygaid fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn ac yn gwella gofal a chanlyniadau i bawb."

Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu sut y mae'r prinder yn y gweithlu yn mynd i waethygu ar gyfer gwasanaethau offthalmoleg, gyda chwarter y meddygon ymgynghorol yn bwriadu gadael y gweithlu dros y pum mlynedd nesaf, y mwyafrif ohonyn nhw yn ymddeol. Mae 28% arall o'r gweithlu yn bwriadu gadael y GIG i weithio gyda darparwyr yn y sector annibynnol - cynnydd o'r 16% o'r gweithlu sy'n gwneud hynny ar hyn o bryd.

Er bod y defnydd o ddarparwyr yn y sector annibynnol wedi helpu i fynd i'r afael â'r rhestrau aros hir ar gyfer triniaeth cataract, mae'r adroddiad yn nodi bod y mwyafrif o glinigau llygad yn credu bod y darparwyr hyn yn cael effaith negyddol ar ofal cleifion a gwasanaethau offthalmoleg yn eu hardal.

Mae dros dri chwarter (76%) o glinigau llygad yn nodi cyllid ar gyfer swyddi ychwanegol fel rhwystr i gynyddu ymhellach capasiti gweithwyr proffesiynol heb fod yn rai meddygol sy'n gweithio yn eu hunedau.

Wrth roi sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Yr Athro Bernie Chang, llywydd Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr: "Mae'n hanfodol i ni fod â chapasiti priodol yn y gweithle am y blynyddoedd sy'n dod, ar lefel meddygon ymgynghorol ac SAS, yn ogystal â rolau heb fod yn feddygol sy'n rhan o'r tîm gofal llygad ehangach megis nyrsys, orthoptwyr, optometryddion a thechnegwyr offthalmoleg. Rhaid cael mwy o gydlynu ar lefel genedlaethol a rhanbarthol i sicrhau y bydd cleifion yn elwa, heb ddadsefydlogi unedau llygad presennol y GIG."

Mae'r Coleg Brenhinol yn galw ar lunwyr polisi ar draws y DU i weithredu ar y prinder yn y gweithlu ar fyrder. Maen nhw'n annog llunwyr polisi i ymrwymo i gynnydd fesul cam mewn llefydd hyfforddi offthalmoleg, datblygu cynllun gweithlu gofal llygad, comisiynu capasiti'r sector annibynnol yn ddeallus, archwilio llwybrau symlach ar gyfer meddygon Arbenigol ac Arbenigwyr Cysylltiol (SAS) a sicrhau bod unedau offthalmoleg yn derbyn yr adnoddau priodol i gwrdd ag anghenion cleifion.

Os ydych chi'n profi oedi yn eich clinig llygad lleol, rydyn ni yma i helpu. Ffoniwch ni ar 0300 3030 111.