"Doeddwn i ddim yn gwybod faint o bobl oedd yn debyg i mi"

Posted: Wednesday 21 December 2022
Margaret Hughes

Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg.

Fel llawer o bobl eraill sy'n cael diagnosis o glefyd macwlaidd, doedd gan Margaret ddim syniad beth oedd y cyflwr a faint o bobl eraill oedd yn cael eu heffeithio ganddo. Ar ôl cael profiad personol o'r ofn a'r ynysu oedd yn dod yn sgil ei chyflwr, roedd Margaret, sy'n 79 oed, eisiau helpu pobl eraill sydd angen cefnogaeth.

Ym mis Mehefin sefydlodd Margaret Grŵp Cefnogi Clefyd Macwlaidd Solfach a Thyddewi, sydd ar hyn o bryd yn croesawu 12 o bobl gyda chyflwr colli golwg, ynghyd â'u ffrindiau neu deuluoedd.

Mater o "helpu pobl eraill" oedd e, esboniodd Margaret.

Meddai: "Roedd hi mor anodd i mi ymdopi ar y dechrau, hyd yn oed gyda chefnogaeth fy ngŵr arbennig, Tony. Mae clefyd macwlaidd yn beth mawr ac mae'n cael effaith niweidiol ar iechyd meddwl. Doeddwn i ddim yn gwybod digon amdano cyn y diagnosis a heb y Gymdeithas Facwlaidd, doeddwn i ddim yn gwybod faint o bobl eraill oedd yn debyg i mi." 

Dim ond ar ôl dod o hyd i'r Gymdeithas Facwlaidd ar-lein y dechreuodd Margaret ddeall mwy am ddirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig ag oed (AMD).

Meddai Margaret: "Pan ges i'r diagnosis doedd dim llawer o wybodaeth, a dyna pam y gwnes i gysylltu gyda'r Gymdeithas Facwlaidd. Roedd yn brofiad eitha' dychrynllyd, yn ynysig er bod gen i ŵr sy'n wych gyda fi. Mae'n beth enfawr i ddigwydd yn eich bywyd ac roedd angen i mi ddysgu mwy amdano. Fe gollais i lawer o fy annibyniaeth ond drwy ymuno â'r gymdeithas a darllen y llythyrau newyddion fe wnaeth i mi sylweddoli fod yna lawer mwy o bobl gyda'r cyflwr, a'u bod nhw'n teimlo neu wedi teimlo fel y gwnes i.

"Pan sylweddolais i fod 300 o bobl newydd yn cael diagnosis yn y DU bob dydd, fe sylweddolais fod hon yn broblem fawr mewn bywyd. Doeddwn i erioed wedi clywed amdano o'r blaen a dyna pam o'n i eisiau cychwyn grŵp - i helpu pobl eraill sy'n mynd drwy'r profiad."

Roedd Margaret, sy'n ffan rygbi sydd wedi byw yng Nghymru ar hyd ei hoes, wedi gwirfoddoli cyn hyn gydag elusen leol, Gofal Solfach, lle bu'n treulio amser gyda phobl anabl. Drwy'r sefydliad mae hi wedi gallu cael cymorth ariannol i redeg grŵp cefnogi lleol y Gymdeithas Facwlaidd sy'n cwrdd bob pythefnos.

"Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr," meddai. "Dwi'n gwybod bod y rhan fwyaf o bobl yn oedrannus, ond maen nhw mor falch i gael gwybod mwy a deall clefyd macwlaidd. Maen nhw'n gwybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain, ac mae hynny'n beth mawr. Mae'r profiadau yn yr ysbyty yn anodd iddyn nhw, felly dyna pam dwi'n dod â siaradwyr i mewn i sôn am yr holl beth, o beth i'w ddisgwyl o'r pigiadau a threfnu ymweliadau â'r ysbyty, ymysg pynciau eraill.

"Dwi'n gallu gweld y bodlonrwydd a'r diolchgarwch gan bobl oedd ddim yn ymwybodol o beth oedd ar gael iddyn nhw ar ôl cael eu diagnosis. Mae AMD sych ar rai ohonyn nhw ac eraill yn cael pigiadau am AMD gwlyb, ond mae pob un yn cael eu calonogi gan y newyddion am ymchwil ac mae'r effaith fwyaf wedi dod drwy'r gwahanol siaradwyr sy'n dod i mewn i esbonio pethau."

Wrth i Grŵp Cefnogi Clefyd Macwlaidd Solfach a Thyddewi barhau i dyfu, mae Margaret wedi annog pobl eraill i wirfoddoli lle gallan nhw.

"Os ydych chi'n gallu helpu ac ymuno gyda'r Gymdeithas Facwlaidd, mae hi mor bwysig i galonogi eraill, Mae'n gwneud cymaint o wahaniaeth i gymaint o bobl," meddai.

Gwirfoddolwch gyda'r Gymdeithas Facwlaidd

Mae gennym nifer o rolau gwirfoddoli, fel arweinwyr grŵp a chyfeillachwyr er enghraifft, i gefnogi unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan glefyd macwlaidd yn y DU.

Dysgwch sut y gallwch wirfoddoli gyda'r Gymdeithas Facwlaidd.

Mae ein gwasanaethau yng Nghymru yn cael eu cyllido'n hael gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.