Mae'r dudalen hon ar gael yn Gymraeg neu Saesneg.

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi rhoi gwerth £1.6 miliwn o arian grant i'r Gymdeithas Facwlaidd ers 2009, i ddarparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i bobl sy'n byw gyda cholli golwg wedi'i achosi gan glefyd macwlaidd. Ar ran yr holl bobl sy'n elwa, rydym yn diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sydd wedi ei gwneud hi'n bosibl cefnogi pobl sydd wedi'u heffeithio gan glefyd macwlaidd ym mhedair gwlad y DU.

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw cyllidwr mwyaf gweithgaredd cymunedol yn y DU.  Ers mis Mehefin 2004, mae wedi dyfarnu dros £9 biliwn i brosiectau sydd wedi bod o fudd i filiynau o bobl, ac ar hyn o bryd mae'n ariannu ein gwaith yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban, gyda grantiau gwerth cyfanswm o £808,000.

Meddai John Rose, cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru: “Yn y dyddiau ansicr hyn ein blaenoriaeth ni yw sicrhau bod arian y Loteri Genedlaethol yn dal i lifo at elusennau, sefydliadau'r sector gwirfoddol a grwpiau llawr gwlad. Fe hoffwn longyfarch y Gymdeithas Facwlaidd ar y gwaith y maen nhw'n ei wneud.

Dros y 14 mlynedd ddiwethaf, mae grantiau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ein galluogi i gyrraedd dros 7,000 o bobl ledled y DU, fel Eileen O'Neill, sy'n mynychu Grŵp Cymdeithas Facwlaidd  Coleraine yng Ngogledd Iwerddon. Dywedodd Eileen wrthyn ni: "Y Clinig Golwg Gwan oedd lle clywais i am y Gymdeithas Facwlaidd am y tro cyntaf, a dyna'r apwyntiad gorau i mi ei gael erioed.

"Fe gysylltais i â'r grŵp lleol bedair blynedd yn ôl ac fe ges i groeso cynnes ganddyn nhw. O'r dechrau'n deg roedd y profiad yn un cadarnhaol iawn a dyna oedd cychwyn popeth. Fe ddechreuais i gymryd rhan mewn Digwyddiadau Gwybodaeth i Gleifion ac ymchwil. Fe ddysgais i lawer iawn, ac roedd yr holl bethau hyn wedi helpu i ail-adeiladu fy hyder.

"Roeddwn i'n gallu gweld pobl eraill yn byw eu bywydau a sut roedd pobl eraill yn ymdopi. Roedd cael y gefnogaeth honno yn beth mawr wnaeth fy helpu i dderbyn fy sefyllfa. Doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun bellach. O'r eiliad rydych chi'n dod i mewn drwy'r drws, mae'n amgylchedd mor ofalgar, yn ogystal â ffordd wych i gadw mewn cysylltiad gyda phobl. Mae'n creu'r rhwydwaith cefnogi hwnnw ac mae'n wych ein bod ni'n cwrdd wyneb yn wyneb eto erbyn hyn.

"Dydw i wir ddim yn gwybod lle byddwn i heddiw taswn i heb gael gwybod am y Gymdeithas Facwlaidd. Mae wedi gwneud i mi gymryd camau breision."

Ar ran pawb, fel Eileen, sydd wedi elwa o'r cyllido hwn, diolch yn fawr i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sydd wedi ei gwneud hi'n bosibl i bobl gael y cyngor, yr wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i reoli eu colli golwg gyda hyder, annibyniaeth a gobaith.