Gwasanaeth cefnogi dros y ffôn newydd ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghymru

Posted: Wednesday 18 January 2023
Judith Hilton Macular Society Member

Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg.

Mae grŵp newydd yn cynnig cefnogaeth dros y ffôn wedi'i sefydlu i helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd ymhlith pobl sy'n byw gyda cholled golwg ledled Cymru.

Bydd y grŵp newydd, sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg a Saesneg, yn cwrdd dros y ffôn unwaith y mis i bobl sy'n methu mynychu grwpiau cefnogi wyneb yn wyneb sy'n cael eu cynnal mewn trefi a dinasoedd ledled y wlad.

O fewn cyfnod o awr, mae'r cyfarfod grŵp cefnogi dros y ffôn yn cynnig gwybodaeth, anogaeth a chyfeillgarwch i bobl sy'n cael eu heffeithio gan glefyd macwlaidd a chyflyrau colli golwg eraill ar draws Cymru.

Meddai Adele Francis, uwch reolwr rhanbarthol de Cymru: "Dwi'n falch iawn ac yn gyffrous i weld lansio'r grwpiau cefnogi dros y ffôn newydd yma. Dwi'n gwybod o brofiad gyda'n grwpiau cefnogi eraill yn y wlad fod pobl sydd wedi cael diagnosis o gyflwr colli golwg wir yn dibynnu arnyn nhw am gefnogaeth gan bobl eraill sy'n mynd drwy brofiadau tebyg iddyn nhw.

"Rydyn ni'n gwybod bod y gefnogaeth gan gymheiriaid yn gallu bod yn gymaint o gymorth a gall ein grwpiau helpu pobl i wella eu hyder a dod yn fwy annibynnol."

Bydd y grŵp cefnogi dros y ffôn newydd yn cwrdd ar ddydd Mercher cyntaf bob mis rhwng 11am a 12pm.

Er mwyn ymuno â'r galwadau hyn, sy'n costio eich cyfradd lleol, cysylltwch ag Adele ar 07494 468 007 neu e-bostiwch adele.francis@macularsociety.org

Fel arall, gallwch chwilio am eich grŵp cefnogi agosaf os hoffech chi gwrdd wyneb yn wyneb gyda phobl gyda chyflwr colli golwg.

Mae ein gwasanaethau yng Nghymru, yn cynnwys y grŵp newydd cefnogaeth dros y ffôn, yn cael eu cyllido'n hael gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Community fund logos (English and Welsh)