"Dwi wedi dysgu'r holl sgiliau sydd eu hangen arna i er mwyn byw'n annibynnol"

Posted: Wednesday 20 September 2023
Nick Lancaster. A yellow box sits in the bottom right corner with the National Lottery Community Fund Wales logo in Welsh

Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg.

Pan sylweddolodd Nick, sy'n gwirfoddol i'r Gymdeithas Facwlaidd, ei fod yn sydyn yn methu gwneud cwpanaid o de iddo'i hun, roedd yn gwybod fod angen cymorth arno i ailddarganfod bywyd annibynnol gyda cholli golwg.

Roedd Nick, sy'n 45 oed, yn cael trafferth gyda'i iechyd meddwl wrth i dasgau fynd yn anoddach ac roedd y tad i bedwar wedi colli parodrwydd i adael y tŷ.

"Roeddwn i mewn iselder dwfn ac yn llythrennol yn methu gadael y tŷ - doeddwn i ddim yn gwneud dim byd," meddai.

Ond mae Nick wedi dod ffordd bell ar ôl profi'r hyn mae'n ei ddisgrifio fel ennyd "argyfwng". Roedd Nick adref ar ei ben ei hun, ei wraig yn y gwaith a'r plant yn yr ysgol, ac mae'n cofio ei fod eisiau gwneud cwpanaid o de i'w hun.

Meddai: "O'n i bron wedi llwyddo i wneud hynny, nes i mi sylweddoli nad oedd llaeth yn y tŷ. Fe achosodd hyn argyfwng gwirioneddol i mi, achos doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu gwneud cwpanaid o de i fi fy hun bellach. Doeddwn i ddim yn gallu mynd allan i brynu llaeth, a dyna pryd y gwnes i o'r diwedd estyn allan a gofyn am gymorth."

Cafodd Nick ddiagnosis o'i gyflwr llygaid pan yn blentyn ond doedd hyn heb ddechrau effeithio ar ei olwg nes ei fod yn ei 30au.

"Roedd ofn arna i," meddai. "O'n i'n gwybod fod hyn yn mynd i fod gyda fi am weddill fy mywyd. Sut oeddwn i'n mynd i ymdopi? Pan ddechreuais i golli fy ngolwg go iawn, fe es i drwy lawer o ymwadu ac o'n i'n ceisio cario ymlaen fel arfer, ond o'n i ddim yn gallu. O'n i wir yn methu gwneud pethau.

"Oherwydd y newid yn fy ngolwg o'n i'n cael mwy o broblemau, mwy o ddamweiniau ac yn brifo fy hun."

Fodd bynnag, disgrifiodd Nick y gefnogaeth y mae wedi'i chael gan wahanol sefydliadau fel "y golau ar ben draw'r twnnel" gan ei bod wedi ei helpu i ddatblygu ffordd o feddwl mwy cadarnhaol.

Meddai: "Roedd yn oleuni ar ben draw'r twnnel. Yn sydyn o'n i'n gallu gweld ffordd o ddechrau gwneud pethau unwaith eto. I fynd yn ôl at y broblem gwneud paned o de, fe ges i fy nysgu sut i fynd i'r siopau lleol ac o'n i'n gallu mynd yn annibynnol, prynu peint o laeth fy hun a'r math yna o beth. Fe arweiniodd hyn ata i'n gwneud mwy o bethau defnyddiol dros y teulu, fel gwneud y siopa wythnosol a phethau felly. Felly, yn hytrach na theimlo fel baich ar fy nheulu, fe ddechreuais i deimlo mod i'n gallu cyfrannu a bod yn rhan o fywyd y teulu, ac o'r fan honno, o'n i'n gallu cyfrannu at fy nghymuned drwy helpu pobl eraill."

Ychwanegodd: "Dwi wedi dod i allu gwneud unrhyw beth a phopeth dwi wedi bod eisiau ei wneud. Dwi wedi dysgu'r holl sgiliau sydd eu hangen arna i er mwyn byw'n annibynnol, gweithio fy ffordd o amgylch pethau neu beth bynnag sydd ei angen i mi ei wneud i fyw bywyd mor normal ag y galla i."

Ymysg gwaith cymunedol Nick mae gwirfoddoli fel arweinydd grŵp cefnogi lleol y Gymdeithas Facwlaidd yn Aberhonddu. Mae hefyd yn gadeirydd VIB (Visual Impairment Breconshire).

Esboniodd Nick: "I mi, mae'n gyfle i helpu pobl eraill sydd ar yr un llwybr ag yr oeddwn i; eu helpu nhw i ddeall fod yna olau ar ben draw'r twnnel, y gallan nhw'n dal wneud y pethau y maen nhw eisiau eu gwneud. Gallan nhw'n dal fod yn rhan o bethau neu fod yn rhan o'u teulu mewn ffyrdd cynhyrchiol.

"Er fod gennym amhariad ar ein golwg a gallai hyn swnio'n wirion, ond i rai mae gweld ein gilydd yn gorfforol yn gwneud yr holl wahaniaeth. Maen nhw'n helpu ei gilydd i ddod o hyd i'r bws iawn felly maen nhw'n teithio i gyfarfodydd gyda'i gilydd. Mae'n fater o ddeall fod yna bobl eraill allan yna sy'n ceisio gwneud yr un pethau â nhw.

"Mae bod â'r grŵp cefnogi yna yn rhoi opsiwn i bobl, on'd yw e? Mae'n reswm i rai ohonyn nhw fynd allan o'r tŷ a gwneud rhywbeth y diwrnod hwnnw.

"Mae wir yn hwb i fy hyder a'r wybodaeth mod i'n gallu mynd allan a gwneud pethau a gwneud gwahaniaeth. Mae'r ffaith mod i'n gallu gwneud gwahaniaeth positif, yn llythrennol, yn defnyddio popeth dwi wedi'i ddysgu gyda cholli golwg a defnyddio'r wybodaeth honno i helpu pobl eraill i wella eu bywydau a gweld y gwelliannau yn rhoi gwefr wirioneddol i mi."

Mae Nick, sydd hefyd yn ymwneud â'r Sgowtiaid Cub, yn brawf o orchfygu'r ofn o unigrwydd ac unigedd wrth iddo annog pobl eraill sy'n colli golwg i gofleidio bywyd a dod o hyd i waith lle gallan nhw, yn cynnwys gwirfoddoli, ac i barhau i fyw eu bywydau bob dydd.

Meddai: "Mae'n mynd i fod yn anodd, mae'n anodd dod o hyd i swydd ac fe gewch eich siomi ond mae'n rhaid i chi ddal i ddyfalbarhau a wynebu'r her a dal i chwilio. Lle bynnag y gallwch chi, dewch o hyd i waith gwirfoddol hefyd gan y bydd hynny'n helpu eich hyder yn ogystal â dangos eich parodrwydd i weithio i unrhyw gyflogwyr.

"Casglwch gymaint o wybodaeth ychwanegol ag y gallwch chi hefyd, ac mae unrhyw gyngor a chymorth y gallwch ddod o hyd iddynt bob amser yn ddefnyddiol. Nid dim ond cyngor hyd yn oed ond jyst gwybod sut i gael y budd-daliadau iawn. Os nad ydych chi'n gallu ffeindio'r gwaith, mae'n fater o wybod ble y gallwch chi gael cefnogaeth ariannol y mae gennych hawl iddi."

Mae ein gwasanaethau yng Nghymru yn cael eu cyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a diolchwn i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sydd wedi ei gwneud hi'n bosibl i bobl fel Nick gael gafael ar gymorth a chefnogaeth.

Hoffech chi gefnogi eraill sy'n mynd drwy ddiagnosis?

Dysgwch sut y gallwch chi helpu - gwirfoddolwch heddiw